29.2.12

Geiriadur Bruce am ddim!

(English below)

Newyddion gwych!! Mae'r geiriadur gorau Saesneg - Cymraeg bellach ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein (mae'r fersiwn printiedig yn costio £46). Mae pobl yn galw 'Geiriadur yr Academi' 'y geiriadur Bruce', ar ôl enw cyntaf un o'i olygyddion Bruce Griffiths. Dwi'n ei ddefnyddio fo trwy'r amser. Mae'n cyfrol enfawr sy'n dangos enghreifftiau o sut mae defnyddio pob gair. Yr unig anfantais ydy does dim modd chwilio am air Cymraeg, felly os dachi'n trio cyfieithu o'r Gymraeg i Saesneg rhaid defnyddio geiriadur ar-lein arall.


[Brilliant news!!  The best English-Welsh dictionary in now available free on-line (the printed version costs £46).  People call the 'Geiriadur yr Academi' 'y geiriadur Bruce', after the first name of one of the editors Bruce Griffiths.  I use it all the time.  It's a huge 'tombe' which shows examples of how to use each word.  The only disadvantage is there is no way to search for a Welsh word, therefore if you're translating from Welsh to English you'll have to use another on line dictionary.]

 

1.1.12

Blwyddyn Newydd Dda!

Blwyddyn Newydd Dda i bawb!  Mae 2012 (dwy fil a deuddeg) wedi cyrraedd, ac mae'n amser i wneud 'adduned' y flwyddyn newydd....  efallai?

Dwi'n mynd i ymdrechu darllen un llyfr yn y Gymraeg pob mis dros y deuddeg (12) mis nesa, adduned sy' ddim yn rhy uchelgeisiol,  ond gawn ni weld!



Blwyddyn newydd dda - happy new year (lit. good new year)
pawb - everybody
cyrraedd - arrived
adduned - resolution
efallai - maybe
ymdrechu - to make an effort
pob - every
dros - over
nesa - next
sy' ddim - which isn't
rhy - too
uchelgeisiol - ambitious
gawn ni weld - we'll see

15.12.11

Diwedd tymor a blwyddyn newydd

Gaethon ni cwis bach nos fercher i orffen tymor o 'sesiynau siarad' yn y Clwb Lever ym Mhort Sunlight.  Yn anffodus, oherwydd  function, oedd yn digwydd lawr grisiau roedd rhaid i ni symud i ystafell llai cyffordus a mwy 'Dickensian' (oedd fel oergell o gymharu i weddill yr adeilad) a rhannu efo'r tim dartiau merched, ond roedd 'na ddigon o le i ni i gyd. Wnes i deimlo ychyig o embaras ar ol darganfod roed fy ateb i'r cwestiwn cyntaf yn anghywir, ond ar ol hynny aeth pethau'n olew... dwi'n meddwl!   Wnaeth Nigel a Terry ennill y wobr cyntaf, (wel yr unig gwobr a dweud y gwir!) sef par o lyfrau i ddysgwyr, a gaethon nhw sgor parchus iawn.

Dwi'n credu bod y sesiynau wedi bod yn llwyddianus, ac mae hi wedi bod yn braf cael y cyfle cadw mewn cysylltiad efo pawb.  Ar gyfartaledd dan ni wedi cael tua 8 yn y sesiynau, sy'n calonogol iawn dwi'n meddwl.   Dan ni wedi trefnu ail-ddechrau ar y 4edd o Ionawr 2012.

Felly rhag ofn i mi beidio cael cyfle i flogio eto cyn y Nadolig...

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb!! (a diolch yn fawr am yr anrhegion)

oherwydd - because of
lawr grisiau - downstairs
cyfforddus - comfortable
llai - less,   mwy - more
i gyd -all
gwobr - prize
unig - only
parchus - respectable
llwyddianus - succesful
cyfle - oppurtunity
ar gyfartaledd - on average
calonogol - heartening
trefnu - arrange
ail-ddechrau - restart
rhag ofn - in case

14.11.11

Llyfrau Cymraeg a Chymreig...

Mae amser y flwyddyn wedi cyrraedd pan mae pobl yn dechrau holi:  'Be dach chi isio fel anrheg Nadolig'!     Dwi'n hoffi derbyn llyfrau fel anrhegion, ond weithiau mae'r teulu isio syniadau penodol.  Mae gwefan Gwales yn defnyddiol iawn os ti'n edrych am ysbrydoliaeth...  mae gynnon nhw lyfrau Cymraeg, llyfrau Saesneg am Gymru, a llyfrau i ddysgwyr, geiriaduron ac ati.  Fydda i'n defnyddio nhw'n aml iawn.

The time of the year has arrived when people start asking: 'What do you want for Christmas'.  I like recieving books as a presents, but sometimes the family want specific ideas.  Gwales's website is very useful if your looking for inspiration...  they have Welsh books, English books about Wales, books for learners, dictionaries and so on.  I use them very often.





4.11.11

Bred of Heaven, Hedd Wyn a Miss Byd...

Dwi ddim wedi darllen y llyfr yma eto, sef Bred of Heaven, ond dwi wedi clywed a darllen llawer, ac wedi gweld yr awdur, (Jasper Rees) yn siarad amdano fo ar Wedi7.   Llyfr sy'n dilyn taith yr awdur (sy'n dod o Lundain) i ddarganfod ei wreiddiau Cymreig, a hynny yn rhannol trwy fynd ati i ddysgu'r iaith Cymraeg.
Dwi wedi darllen nifer o adolygiadau da, a gaeth y llyfr ei ddewis fel 'Book at Bedtime' ar Radio4. 

Dwi'n gobeithio ddarllen o cyn hir (a lot o lyfrau eraill!)

sef-namely, llawer-much/lot, awdur-author, amdano fo-about it, dilyn-follow, darganfod-discover, gwreiddiau-roots, yn rhannol-partly, trwy-through, mynd ati-going at it,

Mewn newyddion arall!

Mae'r actor o Gymru wnaeth chwarae rhan Hedd Wyn (yn y ffilm o'r un enw), wedi ymddangos ar Coronation Street fel 'Mr Dunbar'.  Gafodd y ffilm yma ei enwebu fel un o'r 'Best Foreign Language Films' yn yr Oscars yn ol yn 1993.
 Mi fydd Cymro Cymraeg arall yn ymddangos yn yr opera sebon enwog cyn hir hefyd, sef Wyn Bowen Harries, actor sydd wedi gwneud llawer o bethau yn y Gymraeg. Mi fydd o'n chwarae rhan 'Rev. Douglas' mewn dau bennod.

ymddangos-appear, gafodd(gaeth)-he/she/it had, enwebu-nominate, pennod-episode

Mi fydd hyn yn syndod i lawer o bobl ella, ond mae Miss England eleni yn Cymraes, ac mae hi'n rhugl yn y Gymraeg!   Mae Alize Lily Mounter yn dod o Bontypridd yn wreiddiol, ond roedd hi'n gallu cystadlu yn Lloegr gan bod hi'n byw yn Llundain ar hyn o bryd.   Mi ddaeth hi'n ail yng nghystadleuaeth Miss Wales, ond mi fydd hi'n cystadlu yn erbyn enillydd y coron hwnnw, Sara Manchipp (Cymraes Cymraeg hefyd!), y penwythnos yma yn Miss "it's all for charity mate" World. dyma hi'n siarad am cystadleuaeth Miss Cymru:

syndod-suprise, ella(efallai)-perhaps, rhugl-fluent, ar hun o bryd-at the moment, enillydd-winner,

<iframe width="560" height="315" src="http://www.youtube.com/embed/5Sim-Nh2yCs" frameborder="0" allowfullscreen></iframe>

1.10.11

Sesiwn sgwrs Y Clwb Lever

English follows:

Roedd o'n braf gweld pawb yn y Clwb Lever nos fercher... dwi'n meddwl aeth pethau'n weddol iawn.
Mae'n anodd ffeindio'r cyd-bwysedd mewn sesiynau sgwrs, ac i wneud pawb teimlo rhan o'r sgwrs. Dwi'n cofio yn iawn y profiad o eistedd ymhlith dysgwyr profiadol a Chymry Cymraeg, ac yn methu deall llawer o'r sgwrs neu gyfrannu ato fo. Gobeithio mi fydd pobl yn dweud eu dweud er mwyn i ni wneud i bethau o werth i bawb.  Dwi'n edrych ymlaen at sesiwn wythnos nesaf, ond mae'n rhaid i mi gofio dod efo pres y tro nesa er mwyn prynu diod!

Tan y tro nesa, hwyl,

[It was nice to see everyone at the Lever Club on Wednesday evening night... I think things went reasonably well.  It's hard sometimes to find the balance in 'sesiynau sgwrs', and to make everyone feel part of the conversation. I remember well the experience of sitting amongst a group of experienced learners and native speakers, and failing to understand  much of the conversation or contribute to it.  I hope people will say what they think in order for us to make it something that's of value for everyone.  I'm looking forward to next weeks session, but  must remember to bring some money in order to buy a drink!  Till the next time, hwyl]

21.9.11

Prosiect Cyffrous yn Wrecsam....

Mae 'na brosiect cyffrous ar y gweill yn Wrecsam....

Tafarn Y Saith Seren

Mae criw o Gymry Cymraeg y dre isio troi tafarn y 'Seven Stars' yn dafarn cymunedol a chanolfan Cymraeg.  Mae'r prosiect yn uchelgeisiol ond cyrraeddadwy, ac os gawn nhw ddigon o bres gan fuddsoddwyr mi fydd drysau'r 'Saith Seren' yn agor i fusnes erbyn Rhagfyr 1af. 

Ewch at y wefan i ddarganfod mwy / go to the website to discover more

(there's an exciting project in Wrexham. A group of Welsh speakers in the town want to turn the 7stars pub into a Welsh community pup/language centre.  The project is ambitious but achievable, and if they get enough money from investors, the doors of the 'Saith Seren' will be opening for business by the 1st Dec.)

(ar y gweill - on the knitting needles i.e. in the pipeline)