21.9.11

Prosiect Cyffrous yn Wrecsam....

Mae 'na brosiect cyffrous ar y gweill yn Wrecsam....

Tafarn Y Saith Seren

Mae criw o Gymry Cymraeg y dre isio troi tafarn y 'Seven Stars' yn dafarn cymunedol a chanolfan Cymraeg.  Mae'r prosiect yn uchelgeisiol ond cyrraeddadwy, ac os gawn nhw ddigon o bres gan fuddsoddwyr mi fydd drysau'r 'Saith Seren' yn agor i fusnes erbyn Rhagfyr 1af. 

Ewch at y wefan i ddarganfod mwy / go to the website to discover more

(there's an exciting project in Wrexham. A group of Welsh speakers in the town want to turn the 7stars pub into a Welsh community pup/language centre.  The project is ambitious but achievable, and if they get enough money from investors, the doors of the 'Saith Seren' will be opening for business by the 1st Dec.)

(ar y gweill - on the knitting needles i.e. in the pipeline)

14.9.11

Traethawd diddorol am Gymry Lerpwl...

Ddes i o hyd i draethawd eitha ddiddorol yn ddiweddar.  Darn o waith Olwen Morris-Jones ydy o, sydd newydd raddio o Brifysgol Lerpwl. Er o Gaerdydd mae hi'n dod yn wreiddiol, mae gynni hi gysylltiadau teuleuol efo Lerpwl, a diddordeb yn hanes Cymry'r ddinas.

Enw'r traethawd (sydd yn Saesneg) ydy 'Welsh Migration and Retention of Welsh identity in Liverpool'.  Mae'n rhoi darlun diddorol o fywyd Cymry Lerpwl dros y canrifoedd, a Dyma fo!

des i o hyd - I found (literally - came I across)
traethawd - essay/dissertation
eitha- rather
yn ddiweddar - recently
Darn - piece
graddio - graduate
er - though
cysylltiadau - connections
teuleuol - family
cymry - welsh people
darlun - image
canrifoedd - centuries