14.11.11

Llyfrau Cymraeg a Chymreig...

Mae amser y flwyddyn wedi cyrraedd pan mae pobl yn dechrau holi:  'Be dach chi isio fel anrheg Nadolig'!     Dwi'n hoffi derbyn llyfrau fel anrhegion, ond weithiau mae'r teulu isio syniadau penodol.  Mae gwefan Gwales yn defnyddiol iawn os ti'n edrych am ysbrydoliaeth...  mae gynnon nhw lyfrau Cymraeg, llyfrau Saesneg am Gymru, a llyfrau i ddysgwyr, geiriaduron ac ati.  Fydda i'n defnyddio nhw'n aml iawn.

The time of the year has arrived when people start asking: 'What do you want for Christmas'.  I like recieving books as a presents, but sometimes the family want specific ideas.  Gwales's website is very useful if your looking for inspiration...  they have Welsh books, English books about Wales, books for learners, dictionaries and so on.  I use them very often.





4.11.11

Bred of Heaven, Hedd Wyn a Miss Byd...

Dwi ddim wedi darllen y llyfr yma eto, sef Bred of Heaven, ond dwi wedi clywed a darllen llawer, ac wedi gweld yr awdur, (Jasper Rees) yn siarad amdano fo ar Wedi7.   Llyfr sy'n dilyn taith yr awdur (sy'n dod o Lundain) i ddarganfod ei wreiddiau Cymreig, a hynny yn rhannol trwy fynd ati i ddysgu'r iaith Cymraeg.
Dwi wedi darllen nifer o adolygiadau da, a gaeth y llyfr ei ddewis fel 'Book at Bedtime' ar Radio4. 

Dwi'n gobeithio ddarllen o cyn hir (a lot o lyfrau eraill!)

sef-namely, llawer-much/lot, awdur-author, amdano fo-about it, dilyn-follow, darganfod-discover, gwreiddiau-roots, yn rhannol-partly, trwy-through, mynd ati-going at it,

Mewn newyddion arall!

Mae'r actor o Gymru wnaeth chwarae rhan Hedd Wyn (yn y ffilm o'r un enw), wedi ymddangos ar Coronation Street fel 'Mr Dunbar'.  Gafodd y ffilm yma ei enwebu fel un o'r 'Best Foreign Language Films' yn yr Oscars yn ol yn 1993.
 Mi fydd Cymro Cymraeg arall yn ymddangos yn yr opera sebon enwog cyn hir hefyd, sef Wyn Bowen Harries, actor sydd wedi gwneud llawer o bethau yn y Gymraeg. Mi fydd o'n chwarae rhan 'Rev. Douglas' mewn dau bennod.

ymddangos-appear, gafodd(gaeth)-he/she/it had, enwebu-nominate, pennod-episode

Mi fydd hyn yn syndod i lawer o bobl ella, ond mae Miss England eleni yn Cymraes, ac mae hi'n rhugl yn y Gymraeg!   Mae Alize Lily Mounter yn dod o Bontypridd yn wreiddiol, ond roedd hi'n gallu cystadlu yn Lloegr gan bod hi'n byw yn Llundain ar hyn o bryd.   Mi ddaeth hi'n ail yng nghystadleuaeth Miss Wales, ond mi fydd hi'n cystadlu yn erbyn enillydd y coron hwnnw, Sara Manchipp (Cymraes Cymraeg hefyd!), y penwythnos yma yn Miss "it's all for charity mate" World. dyma hi'n siarad am cystadleuaeth Miss Cymru:

syndod-suprise, ella(efallai)-perhaps, rhugl-fluent, ar hun o bryd-at the moment, enillydd-winner,

<iframe width="560" height="315" src="http://www.youtube.com/embed/5Sim-Nh2yCs" frameborder="0" allowfullscreen></iframe>