29.2.12

Geiriadur Bruce am ddim!

(English below)

Newyddion gwych!! Mae'r geiriadur gorau Saesneg - Cymraeg bellach ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein (mae'r fersiwn printiedig yn costio £46). Mae pobl yn galw 'Geiriadur yr Academi' 'y geiriadur Bruce', ar ôl enw cyntaf un o'i olygyddion Bruce Griffiths. Dwi'n ei ddefnyddio fo trwy'r amser. Mae'n cyfrol enfawr sy'n dangos enghreifftiau o sut mae defnyddio pob gair. Yr unig anfantais ydy does dim modd chwilio am air Cymraeg, felly os dachi'n trio cyfieithu o'r Gymraeg i Saesneg rhaid defnyddio geiriadur ar-lein arall.


[Brilliant news!!  The best English-Welsh dictionary in now available free on-line (the printed version costs £46).  People call the 'Geiriadur yr Academi' 'y geiriadur Bruce', after the first name of one of the editors Bruce Griffiths.  I use it all the time.  It's a huge 'tombe' which shows examples of how to use each word.  The only disadvantage is there is no way to search for a Welsh word, therefore if you're translating from Welsh to English you'll have to use another on line dictionary.]

 

1.1.12

Blwyddyn Newydd Dda!

Blwyddyn Newydd Dda i bawb!  Mae 2012 (dwy fil a deuddeg) wedi cyrraedd, ac mae'n amser i wneud 'adduned' y flwyddyn newydd....  efallai?

Dwi'n mynd i ymdrechu darllen un llyfr yn y Gymraeg pob mis dros y deuddeg (12) mis nesa, adduned sy' ddim yn rhy uchelgeisiol,  ond gawn ni weld!



Blwyddyn newydd dda - happy new year (lit. good new year)
pawb - everybody
cyrraedd - arrived
adduned - resolution
efallai - maybe
ymdrechu - to make an effort
pob - every
dros - over
nesa - next
sy' ddim - which isn't
rhy - too
uchelgeisiol - ambitious
gawn ni weld - we'll see

15.12.11

Diwedd tymor a blwyddyn newydd

Gaethon ni cwis bach nos fercher i orffen tymor o 'sesiynau siarad' yn y Clwb Lever ym Mhort Sunlight.  Yn anffodus, oherwydd  function, oedd yn digwydd lawr grisiau roedd rhaid i ni symud i ystafell llai cyffordus a mwy 'Dickensian' (oedd fel oergell o gymharu i weddill yr adeilad) a rhannu efo'r tim dartiau merched, ond roedd 'na ddigon o le i ni i gyd. Wnes i deimlo ychyig o embaras ar ol darganfod roed fy ateb i'r cwestiwn cyntaf yn anghywir, ond ar ol hynny aeth pethau'n olew... dwi'n meddwl!   Wnaeth Nigel a Terry ennill y wobr cyntaf, (wel yr unig gwobr a dweud y gwir!) sef par o lyfrau i ddysgwyr, a gaethon nhw sgor parchus iawn.

Dwi'n credu bod y sesiynau wedi bod yn llwyddianus, ac mae hi wedi bod yn braf cael y cyfle cadw mewn cysylltiad efo pawb.  Ar gyfartaledd dan ni wedi cael tua 8 yn y sesiynau, sy'n calonogol iawn dwi'n meddwl.   Dan ni wedi trefnu ail-ddechrau ar y 4edd o Ionawr 2012.

Felly rhag ofn i mi beidio cael cyfle i flogio eto cyn y Nadolig...

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb!! (a diolch yn fawr am yr anrhegion)

oherwydd - because of
lawr grisiau - downstairs
cyfforddus - comfortable
llai - less,   mwy - more
i gyd -all
gwobr - prize
unig - only
parchus - respectable
llwyddianus - succesful
cyfle - oppurtunity
ar gyfartaledd - on average
calonogol - heartening
trefnu - arrange
ail-ddechrau - restart
rhag ofn - in case

14.11.11

Llyfrau Cymraeg a Chymreig...

Mae amser y flwyddyn wedi cyrraedd pan mae pobl yn dechrau holi:  'Be dach chi isio fel anrheg Nadolig'!     Dwi'n hoffi derbyn llyfrau fel anrhegion, ond weithiau mae'r teulu isio syniadau penodol.  Mae gwefan Gwales yn defnyddiol iawn os ti'n edrych am ysbrydoliaeth...  mae gynnon nhw lyfrau Cymraeg, llyfrau Saesneg am Gymru, a llyfrau i ddysgwyr, geiriaduron ac ati.  Fydda i'n defnyddio nhw'n aml iawn.

The time of the year has arrived when people start asking: 'What do you want for Christmas'.  I like recieving books as a presents, but sometimes the family want specific ideas.  Gwales's website is very useful if your looking for inspiration...  they have Welsh books, English books about Wales, books for learners, dictionaries and so on.  I use them very often.





4.11.11

Bred of Heaven, Hedd Wyn a Miss Byd...

Dwi ddim wedi darllen y llyfr yma eto, sef Bred of Heaven, ond dwi wedi clywed a darllen llawer, ac wedi gweld yr awdur, (Jasper Rees) yn siarad amdano fo ar Wedi7.   Llyfr sy'n dilyn taith yr awdur (sy'n dod o Lundain) i ddarganfod ei wreiddiau Cymreig, a hynny yn rhannol trwy fynd ati i ddysgu'r iaith Cymraeg.
Dwi wedi darllen nifer o adolygiadau da, a gaeth y llyfr ei ddewis fel 'Book at Bedtime' ar Radio4. 

Dwi'n gobeithio ddarllen o cyn hir (a lot o lyfrau eraill!)

sef-namely, llawer-much/lot, awdur-author, amdano fo-about it, dilyn-follow, darganfod-discover, gwreiddiau-roots, yn rhannol-partly, trwy-through, mynd ati-going at it,

Mewn newyddion arall!

Mae'r actor o Gymru wnaeth chwarae rhan Hedd Wyn (yn y ffilm o'r un enw), wedi ymddangos ar Coronation Street fel 'Mr Dunbar'.  Gafodd y ffilm yma ei enwebu fel un o'r 'Best Foreign Language Films' yn yr Oscars yn ol yn 1993.
 Mi fydd Cymro Cymraeg arall yn ymddangos yn yr opera sebon enwog cyn hir hefyd, sef Wyn Bowen Harries, actor sydd wedi gwneud llawer o bethau yn y Gymraeg. Mi fydd o'n chwarae rhan 'Rev. Douglas' mewn dau bennod.

ymddangos-appear, gafodd(gaeth)-he/she/it had, enwebu-nominate, pennod-episode

Mi fydd hyn yn syndod i lawer o bobl ella, ond mae Miss England eleni yn Cymraes, ac mae hi'n rhugl yn y Gymraeg!   Mae Alize Lily Mounter yn dod o Bontypridd yn wreiddiol, ond roedd hi'n gallu cystadlu yn Lloegr gan bod hi'n byw yn Llundain ar hyn o bryd.   Mi ddaeth hi'n ail yng nghystadleuaeth Miss Wales, ond mi fydd hi'n cystadlu yn erbyn enillydd y coron hwnnw, Sara Manchipp (Cymraes Cymraeg hefyd!), y penwythnos yma yn Miss "it's all for charity mate" World. dyma hi'n siarad am cystadleuaeth Miss Cymru:

syndod-suprise, ella(efallai)-perhaps, rhugl-fluent, ar hun o bryd-at the moment, enillydd-winner,

<iframe width="560" height="315" src="http://www.youtube.com/embed/5Sim-Nh2yCs" frameborder="0" allowfullscreen></iframe>

1.10.11

Sesiwn sgwrs Y Clwb Lever

English follows:

Roedd o'n braf gweld pawb yn y Clwb Lever nos fercher... dwi'n meddwl aeth pethau'n weddol iawn.
Mae'n anodd ffeindio'r cyd-bwysedd mewn sesiynau sgwrs, ac i wneud pawb teimlo rhan o'r sgwrs. Dwi'n cofio yn iawn y profiad o eistedd ymhlith dysgwyr profiadol a Chymry Cymraeg, ac yn methu deall llawer o'r sgwrs neu gyfrannu ato fo. Gobeithio mi fydd pobl yn dweud eu dweud er mwyn i ni wneud i bethau o werth i bawb.  Dwi'n edrych ymlaen at sesiwn wythnos nesaf, ond mae'n rhaid i mi gofio dod efo pres y tro nesa er mwyn prynu diod!

Tan y tro nesa, hwyl,

[It was nice to see everyone at the Lever Club on Wednesday evening night... I think things went reasonably well.  It's hard sometimes to find the balance in 'sesiynau sgwrs', and to make everyone feel part of the conversation. I remember well the experience of sitting amongst a group of experienced learners and native speakers, and failing to understand  much of the conversation or contribute to it.  I hope people will say what they think in order for us to make it something that's of value for everyone.  I'm looking forward to next weeks session, but  must remember to bring some money in order to buy a drink!  Till the next time, hwyl]

21.9.11

Prosiect Cyffrous yn Wrecsam....

Mae 'na brosiect cyffrous ar y gweill yn Wrecsam....

Tafarn Y Saith Seren

Mae criw o Gymry Cymraeg y dre isio troi tafarn y 'Seven Stars' yn dafarn cymunedol a chanolfan Cymraeg.  Mae'r prosiect yn uchelgeisiol ond cyrraeddadwy, ac os gawn nhw ddigon o bres gan fuddsoddwyr mi fydd drysau'r 'Saith Seren' yn agor i fusnes erbyn Rhagfyr 1af. 

Ewch at y wefan i ddarganfod mwy / go to the website to discover more

(there's an exciting project in Wrexham. A group of Welsh speakers in the town want to turn the 7stars pub into a Welsh community pup/language centre.  The project is ambitious but achievable, and if they get enough money from investors, the doors of the 'Saith Seren' will be opening for business by the 1st Dec.)

(ar y gweill - on the knitting needles i.e. in the pipeline)

14.9.11

Traethawd diddorol am Gymry Lerpwl...

Ddes i o hyd i draethawd eitha ddiddorol yn ddiweddar.  Darn o waith Olwen Morris-Jones ydy o, sydd newydd raddio o Brifysgol Lerpwl. Er o Gaerdydd mae hi'n dod yn wreiddiol, mae gynni hi gysylltiadau teuleuol efo Lerpwl, a diddordeb yn hanes Cymry'r ddinas.

Enw'r traethawd (sydd yn Saesneg) ydy 'Welsh Migration and Retention of Welsh identity in Liverpool'.  Mae'n rhoi darlun diddorol o fywyd Cymry Lerpwl dros y canrifoedd, a Dyma fo!

des i o hyd - I found (literally - came I across)
traethawd - essay/dissertation
eitha- rather
yn ddiweddar - recently
Darn - piece
graddio - graduate
er - though
cysylltiadau - connections
teuleuol - family
cymry - welsh people
darlun - image
canrifoedd - centuries

27.8.11

'Wedi7' yn dod i Amgueddfa (museum) Lerpwl...

Amgueddfa Lerpwl

Mi fydd 'Wedi7', y rhaglen teledu 'cylchgrawn', yn gwneud darn am Amgueddfa newydd Lerpwl nos fawrth.   Mi fyddan nhw'n edrych ar yr arddangosfa (display) sy'n adrodd (tells) hanes Cymry Lerpwl, a gweddill (rest) yr amgueddfa mae'n siwr.   Mi fydda i yna, ac yn gwneud cyfraniad (contribution) bach efallai...  pwy a wir! (who knows).



(Cofiwch, mae Wedi7 ar gael ar S4Clic am wythnos cyfan hefyd / Remember, Wedi7 is available on S4Clic for a whole week as well)

cylchgrawn - magazine
darn - part/bit
hanes - history
Cymry - welsh people
mae'n siwr - for sure
mi fydda i yna - I'll be there

23.8.11

Y Sgets.... perfformiad arall?

Gobeithio eich bod chi i gyd yn mwynhau'r haf. Gaethon ni wythnos digon braf lawr yn Dorset, ond erbyn hyn dwi yn ol yn y gwaith.

Dani wedi cael gwahoddiad i berfformio'r sgets unwaith eto, y tro yma mewn un o gyfarfodydd 'Cymdeithas Birkenhead'. Dwi'n hapus i wneud o, ond mi fydda i'n siarad efo pawb a gofyn os bod nhw'n fodlon cymryd rhan cyn cytuno wrth gwrs. Mi fasai rhaid i mi siarad ychydig hefyd - am y dosbarthiadau nos a chefndir y sgets - er mwyn wneud ein cyfraniad parhau am fwy na pum munud! ond mi fasai'n braf cael siawns gwneud perfformiad arall, ar ol yr holl waith caled!!

erbyn hyn - by now
gwahoddiad - invite
cyfarfod(ydd) - meeting(s)
cymdeithas - society
gofyn - ask
bodlon - willing/happy
cymryd rhan - take part
cytuno - agree
mi fasai rhaid i mi - I would have to
cefndir - background
er mwyn - in order to
cyfraniad - contribution
parhau - last
mi fasai'n braf - it'd be nice
holl - all (the whole)
(g)waith - work
caled - hard

4.8.11

Diwrnod ar Faes yr Eisteddfod...

Roedd o'n hyfryd gweld pawb ar faes Eisteddfod Wrecsam dydd iau, a gobeithio wnaethoch chi i gyd mwynhau'r profiad.  Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn rhywbeth annodd i ddiffinio,  ac mae'n cymryd *peth amser* i ddeall beth sy'n digwydd.  Roedd Eisteddfod Wrecsam fy 5ed Prifwyl, a dwi dal ddim yn deall hanner o'r pethau sy'n mynd ymlaen.   Yn y bon wrth gwrs siawns i glywed a defnyddio'r Cymraeg ydy o i fi a dysgwyr eraill, a pob tro dwi'n mynychu'r Eisteddfod dwi'n cael mwy allan o'r profiad.   Gobeithio felly gaethoch chi rywbeth allan ohono fo, a llond bag o 'freebies' hefyd!



 Roedd yr ymateb i'r sgets yn wych, a diolch i chi i gyd am gymryd rhan.  Peth dewr ydy wneud rhywbeth fel hyn mewn ail iaith, felly da iawn iawn i bawb, ac mae'r beirniadaeth (adjudication) yn calonogol hefyd.

Dyma feirniadaeth y beirniaid:

"Sgript dda gyda llawer o hiwmor 'cynnil'!
Agoriad effeithiol - yr athro yn naturiol ac yn gredadwy iawn.
Roedd aelodau'r dosbarth yn cymryd eu rhannau'n hyderus, ond cofiwch bod angen codi lleisiau ar gyfer cystadleuaeth fel hon.
Roedd wynebau'n creu cyfrolau hefyd e.e. y dynes yn son am y delyn a gw^r 'Tina Turner'.
Roedd Geraint (Lovgreen) yn hoffi llinellau fel 'Afon Dwfn Mynydd Uchel'.
Pob llwyddiant i chi i gyd wrth ddysgu Cymraeg, diolch o galon am gystadlu."

Lisa J Davies / Geraint Lovgreen

geirfa/vocab

diffinio - define
dal - still
mynychu - attend
yn y bon - in the main
peth amser - some time
llond - full
cynnil - subtle
effeithiol - effective
credadwy - believable
rhannau - parts
hyderus - confidently
ar gyfer - for
(g)wynebau - faces
cyfrolau - volumes
e.e. - e.g.
gw^r - husband
llwyddiant - success
cystadlu - compete
diolch o galon - heartfelt thanks


1.8.11

Adroddiad o Wrecsam..

English below:

Wnes i dreulio fy niwrnod cyntaf yn Eisteddfod Wrecsam dydd Sul.  Mae'n digon hawdd i gyrraedd ac mae 'na arwyddion 'melyn' ar y 'ffordd osgoi' (A483) i'ch helpu chi ffeindio'r Maes.   Mae'n dipyn o bellter o'r maes parcio i'r prif fynedfa, ac wedyn tua pump munud arall o'r fynedfa i 'Maes D.   Mae 'na fapiau o'r 'Maes' ar gael wrth i chi gadael y fynedfa, sy'n handi iawn.  Os dwi'n cofio yn iawn dani'n cyfarfod ym Maes D tua 11.15.  Gawn ni gyfle eistedd lawr a chael paned yna cyn i ni wneud y sgets.

Mae 'na lawer iawn o lefydd i fwyta ar y Maes,  a llefydd i fwyta eich bwyd eich hun os dyna be sy'n well gen ti wneud.

Wela i chi dydd Iau:)

[I spent my first day at the Eisteddfod on Sunday. It's easy enough to get there, and there are yellow signs on the by-pass (A483) to help you find the 'Maes'.  It's a bit of a distance from the car park to the main entrance, and then around 5 mins from there to Maes-D. There are maps available  as you leave the main entrance which is very handy.  If I remember correctly we're meeting in Maes D around 11.15. 
We'll have a chance to have a sit down and a paned before performing the sketch.

There are plenty of places to eat on the 'Maes, and places to eat your own food if you prefer.  See you Thursday]


26.7.11

Gwybodaeth defnyddiol - Useful Info

Dwi wedi dod o hyd i lyfryn bach sy'n dweud be' sy'n mynd ymlaen ym mhob cornel o'r Eisteddfod, o Faes-D i'r Pafiliwn mawr pinc!  Mae'n ar gael fel ffeil pdf yma.

Mae map o'r Maes ar gael hefyd fel pdf yma. Cofiwch! mi fydd rhaid i ni gyrraedd y Prif Mynedfa er mwyn casglu'r tocynnau o 'ffenestr' y Cystadleuwyr (Cystadleuaeth 121 yn Maes-D)  Dwi'n credu bod yr arwyddion ar yr A483 yn eich cyfeirio chi at y maes parcio agosaf i'r prif mynedfa.

Dyma'r cyfeiriadau, wela i chi yna!

Ive found a small pamphlet which says what's going on in every corner of the Eisteddfod from Maes-D to the big pink Pavilion! It's available as a pdf file here.

There's a map of the 'Maes' available as well as a pdf here.   Remember! We'll have to arrive at the Main Entrance in order to collect the tickets from the 'Cystadleuwyr' window (competition 121 Maes-D).  I believe that the directions from the A483 direct you to the car park nearest to the main entrance.

Here are the directions, see you there!

18.7.11

Ymarfer Sgets...

Dwi'n edrych ymlaen at yr ymarfer sgets sy'n digwydd yn ty Mike ac Anne nos fercher, ond ar ol gofyn i bawb dysgu eu llinellau, dwi'n dechrau panicio rwan am ddysgu fy llinellau i! 

digwydd - happening
llinellau - lines

15.7.11

gwersi am ddim efo Nia ac Ioan...

(English below)

Dwi wedi bod yn edrych ar wefan Cariad@Iaith ac wedi sylwi bod fideos o'r gwersi ar gael, hynny yw'r gwersi gaeth y criw o 'selebs' yn ystod yr wythnos o ddysgu.  Maen nhw'n para am 2awr yr un ac yn gwerth eu gweld.   Ewch yma i'w gwylio.

I've been looking at the Cariad@Iaith - Love4Language website, and have noticed that videos of the lessons are available, the lessons that is that the celebs got during the week of learning.  They last for 2 hrs each and are worth watching.  Go here to watch them.

10.7.11

Mae'r cyffro wedi dechrau...

Wel mae cyffro Cariad@Iaith/Love4Language wedi dechrau ar S4C! 

Dan ni wedi cyfarfod y 'celebs' sy'n cymryd rhan yn y rhaglen, a dyma dipyn bach amdanyn nhw, ond ewch i'r wefan http://www.s4c.co.uk/cariadatiaith/e_index.shtml am mwy:

Lembit Opik! - no explanation needed, though interestingly his first language is Estonian, despite being brought up in Northern Ireland!

Helen Lederer - Comic/Writer, born in Wales as her father was working there at the time, can say 'bore da'..

Sophie Evans - (from the Rhondda, came second in 'Somewhere over the Rainbow', has sung the Welsh version on telly 'Rhywle, Draw Dros yr Enfys')

Colin Charvis - Birmingham born Welsh rugby player now settled in Abertawe, was on the Big Welsh Challenge so knows a fair bit Welsh of, including Hen Wlad fy Nhadau...wel sort of!)

Josie D'arby - tv presenter, actores, born in Casnewydd (Newport), keen to embrace her Welsh roots and promote awareness of ethnic minorities in Wales.

Matt Johnson - Born in Caerffili, now presenting on OKTV,  the introduction shows him performing with what looks like a Welsh boy band! so could be a dark horse!

Rhys from GLC ('Goldie Lookin Chain' that is) - Casnewydd born and bred, claims to have missed out on any Welsh lessons that may have been offered at school,  one to watch!

Melanie Walters - actores o Abertawe, most famous for her portrayal of Staceys mum (Gwen) in Gavin and Stacey.  She learnt some Welsh whilst at Aberystwyth Uni, though was put off by some peoples reaction to learners back in the 70's. Times have changed hopefully!

The 'dosbarthiadau' started on  dydd Sadwrn, with the first programme following the antics (yr hynt a helynt) nos Sul,  dwi'n edrych ymlaen....


cyffro-excitement
cymryd rhan - taking place




4.7.11

Cariad@Iaith

Mi fydd cyfres newydd o Cariad@iaith yn dechrau nos wener ar S4C.   Mae'n saith mlynedd ers i Tanni Grey Thompson 'ennill' y cyfres diweddaraf, cyfres mae pobl yn ei gofio oherwydd ymddygiad (behaviour) Janet Street Porter.  

Y tro yma, mae'r criw o 'celebs' yn dysgu mewn 'gwersyll amgen' lawr yn Sir Penfro, ac mi fydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau eu amser yna pob nos, wrth iddyn nhw drio dysgu rhywfaint o Gymraeg mewn wythnos.  Mae 'na ddau o diwtoriaid yn eu dysgu nhw, Nia Parry, a Ioan Talfryn Davies sy'n dysgu yn y Canolfan Iaith yn Ninbych fel arfer.

Ymhlith y selebs eleni ydy Lempit Opic, Helen Lederer, a chwpl o rapwyr o'r grwp Goldie Lookin Chain. Cymysgedd diddorol iawn!

Dyma'r wefan (website)

 cyfres - series
 diweddaraf - most recent
oherwydd - because of
criw - crew/group
gwersyll amgen - alternative campsite
darlledu - broadcast
uchafbwyntiau - highlights
rhywfaint - some amount
ymhlith - amongst
rapwyr - rappers
cymysgedd - mixture

15.6.11

Rhwng y Gogledd a'r De (between the North & South)

One of the questions often asked by Welsh learners (and I remember asking it myself on more than one occasion) is where is the dividing line between the Northern and Southern dialects of Welsh.  This as you can imagine is a difficult question to answer, but one nevertheless that the television series 'Ar Lafar' went about trying to answer this week.   'Ar Lafar' (meaning the spoken language) has been looking at regional dialects, which number of course many more than two.  Pennod  2 looks partly at the Ceredigion dialect, as well as the 'North and South' question, it's well worth watching ond S4Clic (remember English and Welsh subtitles are available).

If you havn't got time to watch, the simplest answer is that broadly speaking the 'transition zone' starts as far South as Aberaeron and reaches almost as far North as Corris, giving a notional border around the Dyfi estuary.   This is broadly what you might expect, as in Machynlleth the Welsh has Northern charecteristics, though by the time you reach Aberystwyth (and manage to hear Ceredigion Welsh amongst the tourists and students!) the Southern patterns rule.  Its interesting to hear somebody from South Ceredigion say that 'Maen nhw'n siarad yn eitha ogleddol yn Aberystwyth' (they speak rather 'northish' in Aberystwyth), so I suppose it's all relative.

27.5.11

Digwyddiadau'r haf..... (summer events)

Dwi newydd derbyn gwybodaeth am ddigwyddiadau'r haf i ddysgwyr Cymraeg dros gogledd Cymru.

Mi ddylech chi weld y dogfen isod:

dwi newydd derbyn - I've just (i.e. 'newly') recieved
mi ddylech chi - you should
dogfen - document
isod - below

Digwyddiadau_Haf

23.5.11

Rhagor o hanes Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917...

Diolch i Nigel am adael i mi gopio'r erthygl hynod o ddiddorol yma o'r Wirral Journal.  Gaeth y rhifyn yma ei gyhoeddi yn 1992, 75 mlynedd ers i'r Eisteddfod enwog yma cael ei gynnal ym Mharc Penbedw.

gadael - allow/leave
erthygl - article
hynod - notably
rhifyn - edition
cyhoeddi - publish
ers - since
cynnal - to hold(a function)/maintain