English follows:
Roedd o'n braf gweld pawb yn y Clwb Lever nos fercher... dwi'n meddwl aeth pethau'n weddol iawn.
Mae'n anodd ffeindio'r cyd-bwysedd mewn sesiynau sgwrs, ac i wneud pawb teimlo rhan o'r sgwrs. Dwi'n cofio yn iawn y profiad o eistedd ymhlith dysgwyr profiadol a Chymry Cymraeg, ac yn methu deall llawer o'r sgwrs neu gyfrannu ato fo. Gobeithio mi fydd pobl yn dweud eu dweud er mwyn i ni wneud i bethau o werth i bawb. Dwi'n edrych ymlaen at sesiwn wythnos nesaf, ond mae'n rhaid i mi gofio dod efo pres y tro nesa er mwyn prynu diod!
Tan y tro nesa, hwyl,
[It was nice to see everyone at the Lever Club on Wednesday evening night... I think things went reasonably well. It's hard sometimes to find the balance in 'sesiynau sgwrs', and to make everyone feel part of the conversation. I remember well the experience of sitting amongst a group of experienced learners and native speakers, and failing to understand much of the conversation or contribute to it. I hope people will say what they think in order for us to make it something that's of value for everyone. I'm looking forward to next weeks session, but must remember to bring some money in order to buy a drink! Till the next time, hwyl]
1.10.11
21.9.11
Prosiect Cyffrous yn Wrecsam....
Mae 'na brosiect cyffrous ar y gweill yn Wrecsam....
Mae criw o Gymry Cymraeg y dre isio troi tafarn y 'Seven Stars' yn dafarn cymunedol a chanolfan Cymraeg. Mae'r prosiect yn uchelgeisiol ond cyrraeddadwy, ac os gawn nhw ddigon o bres gan fuddsoddwyr mi fydd drysau'r 'Saith Seren' yn agor i fusnes erbyn Rhagfyr 1af.
Ewch at y wefan i ddarganfod mwy / go to the website to discover more
(there's an exciting project in Wrexham. A group of Welsh speakers in the town want to turn the 7stars pub into a Welsh community pup/language centre. The project is ambitious but achievable, and if they get enough money from investors, the doors of the 'Saith Seren' will be opening for business by the 1st Dec.)
(ar y gweill - on the knitting needles i.e. in the pipeline)
| Tafarn Y Saith Seren |

14.9.11
Traethawd diddorol am Gymry Lerpwl...
Ddes i o hyd i draethawd eitha ddiddorol yn ddiweddar. Darn o waith Olwen Morris-Jones ydy o, sydd newydd raddio o Brifysgol Lerpwl. Er o Gaerdydd mae hi'n dod yn wreiddiol, mae gynni hi gysylltiadau teuleuol efo Lerpwl, a diddordeb yn hanes Cymry'r ddinas.
Enw'r traethawd (sydd yn Saesneg) ydy 'Welsh Migration and Retention of Welsh identity in Liverpool'. Mae'n rhoi darlun diddorol o fywyd Cymry Lerpwl dros y canrifoedd, a Dyma fo!
des i o hyd - I found (literally - came I across)
traethawd - essay/dissertation
eitha- rather
yn ddiweddar - recently
Darn - piece
graddio - graduate
er - though
cysylltiadau - connections
teuleuol - family
cymry - welsh people
darlun - image
canrifoedd - centuries

27.8.11
'Wedi7' yn dod i Amgueddfa (museum) Lerpwl...
![]() |
| Amgueddfa Lerpwl |
Mi fydd 'Wedi7', y rhaglen teledu 'cylchgrawn', yn gwneud darn am Amgueddfa newydd Lerpwl nos fawrth. Mi fyddan nhw'n edrych ar yr arddangosfa (display) sy'n adrodd (tells) hanes Cymry Lerpwl, a gweddill (rest) yr amgueddfa mae'n siwr. Mi fydda i yna, ac yn gwneud cyfraniad (contribution) bach efallai... pwy a wir! (who knows).
(Cofiwch, mae Wedi7 ar gael ar S4Clic am wythnos cyfan hefyd / Remember, Wedi7 is available on S4Clic for a whole week as well)
cylchgrawn - magazine
darn - part/bit
hanes - history
Cymry - welsh people
mae'n siwr - for sure
mi fydda i yna - I'll be there
23.8.11
Y Sgets.... perfformiad arall?
Gobeithio eich bod chi i gyd yn mwynhau'r haf. Gaethon ni wythnos digon braf lawr yn Dorset, ond erbyn hyn dwi yn ol yn y gwaith.
Dani wedi cael gwahoddiad i berfformio'r sgets unwaith eto, y tro yma mewn un o gyfarfodydd 'Cymdeithas Birkenhead'. Dwi'n hapus i wneud o, ond mi fydda i'n siarad efo pawb a gofyn os bod nhw'n fodlon cymryd rhan cyn cytuno wrth gwrs. Mi fasai rhaid i mi siarad ychydig hefyd - am y dosbarthiadau nos a chefndir y sgets - er mwyn wneud ein cyfraniad parhau am fwy na pum munud! ond mi fasai'n braf cael siawns gwneud perfformiad arall, ar ol yr holl waith caled!!
erbyn hyn - by now
gwahoddiad - invite
cyfarfod(ydd) - meeting(s)
cymdeithas - society
gofyn - ask
bodlon - willing/happy
cymryd rhan - take part
cytuno - agree
mi fasai rhaid i mi - I would have to
cefndir - background
er mwyn - in order to
cyfraniad - contribution
parhau - last
mi fasai'n braf - it'd be nice
holl - all (the whole)
(g)waith - work
caled - hard

4.8.11
Diwrnod ar Faes yr Eisteddfod...
Roedd o'n hyfryd gweld pawb ar faes Eisteddfod Wrecsam dydd iau, a gobeithio wnaethoch chi i gyd mwynhau'r profiad. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn rhywbeth annodd i ddiffinio, ac mae'n cymryd *peth amser* i ddeall beth sy'n digwydd. Roedd Eisteddfod Wrecsam fy 5ed Prifwyl, a dwi dal ddim yn deall hanner o'r pethau sy'n mynd ymlaen. Yn y bon wrth gwrs siawns i glywed a defnyddio'r Cymraeg ydy o i fi a dysgwyr eraill, a pob tro dwi'n mynychu'r Eisteddfod dwi'n cael mwy allan o'r profiad. Gobeithio felly gaethoch chi rywbeth allan ohono fo, a llond bag o 'freebies' hefyd!
Roedd yr ymateb i'r sgets yn wych, a diolch i chi i gyd am gymryd rhan. Peth dewr ydy wneud rhywbeth fel hyn mewn ail iaith, felly da iawn iawn i bawb, ac mae'r beirniadaeth (adjudication) yn calonogol hefyd.
Dyma feirniadaeth y beirniaid:
"Sgript dda gyda llawer o hiwmor 'cynnil'!
Agoriad effeithiol - yr athro yn naturiol ac yn gredadwy iawn.
Roedd aelodau'r dosbarth yn cymryd eu rhannau'n hyderus, ond cofiwch bod angen codi lleisiau ar gyfer cystadleuaeth fel hon.
Roedd wynebau'n creu cyfrolau hefyd e.e. y dynes yn son am y delyn a gw^r 'Tina Turner'.
Roedd Geraint (Lovgreen) yn hoffi llinellau fel 'Afon Dwfn Mynydd Uchel'.
Pob llwyddiant i chi i gyd wrth ddysgu Cymraeg, diolch o galon am gystadlu."
Lisa J Davies / Geraint Lovgreen
geirfa/vocab
diffinio - define
dal - still
mynychu - attend
yn y bon - in the main
peth amser - some time
llond - full
cynnil - subtle
effeithiol - effective
credadwy - believable
rhannau - parts
hyderus - confidently
ar gyfer - for
(g)wynebau - faces
cyfrolau - volumes
e.e. - e.g.
gw^r - husband
llwyddiant - success
cystadlu - compete
diolch o galon - heartfelt thanks

1.8.11
Adroddiad o Wrecsam..
English below:
Wnes i dreulio fy niwrnod cyntaf yn Eisteddfod Wrecsam dydd Sul. Mae'n digon hawdd i gyrraedd ac mae 'na arwyddion 'melyn' ar y 'ffordd osgoi' (A483) i'ch helpu chi ffeindio'r Maes. Mae'n dipyn o bellter o'r maes parcio i'r prif fynedfa, ac wedyn tua pump munud arall o'r fynedfa i 'Maes D. Mae 'na fapiau o'r 'Maes' ar gael wrth i chi gadael y fynedfa, sy'n handi iawn. Os dwi'n cofio yn iawn dani'n cyfarfod ym Maes D tua 11.15. Gawn ni gyfle eistedd lawr a chael paned yna cyn i ni wneud y sgets.
Mae 'na lawer iawn o lefydd i fwyta ar y Maes, a llefydd i fwyta eich bwyd eich hun os dyna be sy'n well gen ti wneud.
Wela i chi dydd Iau:)
[I spent my first day at the Eisteddfod on Sunday. It's easy enough to get there, and there are yellow signs on the by-pass (A483) to help you find the 'Maes'. It's a bit of a distance from the car park to the main entrance, and then around 5 mins from there to Maes-D. There are maps available as you leave the main entrance which is very handy. If I remember correctly we're meeting in Maes D around 11.15.
We'll have a chance to have a sit down and a paned before performing the sketch.
There are plenty of places to eat on the 'Maes, and places to eat your own food if you prefer. See you Thursday]

Subscribe to:
Posts (Atom)