27.5.11

Digwyddiadau'r haf..... (summer events)

Dwi newydd derbyn gwybodaeth am ddigwyddiadau'r haf i ddysgwyr Cymraeg dros gogledd Cymru.

Mi ddylech chi weld y dogfen isod:

dwi newydd derbyn - I've just (i.e. 'newly') recieved
mi ddylech chi - you should
dogfen - document
isod - below

Digwyddiadau_Haf

23.5.11

Rhagor o hanes Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917...

Diolch i Nigel am adael i mi gopio'r erthygl hynod o ddiddorol yma o'r Wirral Journal.  Gaeth y rhifyn yma ei gyhoeddi yn 1992, 75 mlynedd ers i'r Eisteddfod enwog yma cael ei gynnal ym Mharc Penbedw.

gadael - allow/leave
erthygl - article
hynod - notably
rhifyn - edition
cyhoeddi - publish
ers - since
cynnal - to hold(a function)/maintain 

7.5.11

Ar Lannau'r Dyfrdwy... unwaith eto...

Talfyriad post 'Clecs Cilgwri' /An abreviation of a Clecs Cilgwri  post  (vocab below)  

Ges i tip da gan Nigel a Mike yr wythnos yma i drio'r llwybr beicio sy'n glynu at lannau'r Dyfrdwy o Bont Penarlág i Gaer, a dyna be wnes i ddydd gwener.   Mae'n ffordd hyfryd o gyrraedd Caer... ac i osgoi'r traffic!    Digwydd bod, ro'n i'n ddigon ffodus i weld yr 'Afon Dyfrwdwy' (y llong yn y llun), yn cludo adain Airbus380,  sy'n cael eu cynhyrchu ym Mrychdyn (Broughton) yn ymyl yr afon.  Mi gaeth y barge  hwn ei adeiladu'n arbennig i fynd ag adenydd yr awerynau enfawr 'ma lawr y Dyfrdwy hyd at Borthladd Mostyn.  Mae'r llong yn isel iawn iawn er mwyn gadael iddo fo fynd o dan y pontydd.


Adain 'Airbus' ar ei ffordd lawr y Dyfrdwy

Ar ol dilyn yr afon am saith milltir, wnes i ffeindio fy hun yng nghanol Caer, heb hyd yn oed gweld yr un gar!   Wnes i adael y Dyfrdwy ger y lociau oedd yn arfer cysylltu'r camlas â'r afon, cyn i mi dreulio tipyn o amser yn ffeindio towpath camlas y Shropshire Union -  mae'n hawdd dechrau ar yr ochr anghywir, sy'n arwain i nunlle!   Ond dyma ffordd hyfryd arall o gyraedd neu adael Caer, ac wnes i ffeindio fy hun yng nghanol y cefn gwlad mewn ychydig o funudau.   Ar ol tua pedwar milltir wnes i droi oddi ar llwybr y camlas a ffeindio fy ffordd yn ol i'r Two Mills (lle wnes i gychwyn) ar y lonydd tawel.  Gwibdaith hyfryd :)

cyrraedd - reach/arrive
glynu at - sticks to
osgoi - avoid
digwydd bod - as it happens
ffodus - fortunate
cludo - to transport
adain (pl. adenydd) - wing
cynhyrchu - to produce
adeiladu - to build
mynd ag - to take (lit. to go with)
aweryn(au) - aeroplane(s)
hyd at - as far as/up to
er mwyn - in order to
gadael - leave/allow/let
o dan - under
pont(ydd) - bridge(s)
hyd yn oed - even
cysylltu - to connect
camlas - canal
treulio -  to spend time
nunlle - nowhere
oddi ar - from on (ie. troi oddi ar = turn from on/turn off)
gwibdaith - excursion
lonydd - lanes