15.12.11

Diwedd tymor a blwyddyn newydd

Gaethon ni cwis bach nos fercher i orffen tymor o 'sesiynau siarad' yn y Clwb Lever ym Mhort Sunlight.  Yn anffodus, oherwydd  function, oedd yn digwydd lawr grisiau roedd rhaid i ni symud i ystafell llai cyffordus a mwy 'Dickensian' (oedd fel oergell o gymharu i weddill yr adeilad) a rhannu efo'r tim dartiau merched, ond roedd 'na ddigon o le i ni i gyd. Wnes i deimlo ychyig o embaras ar ol darganfod roed fy ateb i'r cwestiwn cyntaf yn anghywir, ond ar ol hynny aeth pethau'n olew... dwi'n meddwl!   Wnaeth Nigel a Terry ennill y wobr cyntaf, (wel yr unig gwobr a dweud y gwir!) sef par o lyfrau i ddysgwyr, a gaethon nhw sgor parchus iawn.

Dwi'n credu bod y sesiynau wedi bod yn llwyddianus, ac mae hi wedi bod yn braf cael y cyfle cadw mewn cysylltiad efo pawb.  Ar gyfartaledd dan ni wedi cael tua 8 yn y sesiynau, sy'n calonogol iawn dwi'n meddwl.   Dan ni wedi trefnu ail-ddechrau ar y 4edd o Ionawr 2012.

Felly rhag ofn i mi beidio cael cyfle i flogio eto cyn y Nadolig...

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb!! (a diolch yn fawr am yr anrhegion)

oherwydd - because of
lawr grisiau - downstairs
cyfforddus - comfortable
llai - less,   mwy - more
i gyd -all
gwobr - prize
unig - only
parchus - respectable
llwyddianus - succesful
cyfle - oppurtunity
ar gyfartaledd - on average
calonogol - heartening
trefnu - arrange
ail-ddechrau - restart
rhag ofn - in case