28.8.10

Gwyliau... Holidays

(English below)

Dani'n mynd i Ben Lly^n yfory am yr wythnos, i fwthyn rhywle ger Pistyll, ar arfordir gogleddol y penrhyn.   Gobeithio ga i gyfle i ymarfer fy Nghymraeg, ond efo cymaint o ymwelwyr yna dros yr haf, tydy hynny ddim yn peth hawdd pob tro,  gawn ni weld!   

Wrth gwrs, yng Nghymru mae'n rhaid cael 'cynllun tywydd gwlyb' pob ymweliad (wel cot law o leiaf!), ond ym Mlaenau Ffestiniog eleni maen nhw wedi mynd cam yn bellach, trwy drefnu gwyl o'r enw 'Gwyl y Glaw',  sy'n dathlu enwogrwydd y dre am dywydd gwlyb!   Yn anffodus, mae rhagolygon y tywydd ar hyn o bryd am y penwythnos yn addo mwy o heulwen na glaw...   deddf y diawl am wn i!

Ta waeth, beth bynnag eich bod chi'n wneud am weddill y gwyliau,  mwynhewch!!

Gyda Llaw  -  mae dyn o Los Angeles - Dan Rhys - wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg ac anfon clyweliad fideo at gynhyrchwyr Pobl y Cwm, er mwyn trio cael rhan yn yr opera sebon.  Cael ychydig o hwyl ydy o efallai, ond chwarae teg iddo fo, mae o wedi gwneud ymdrech mawr i ddysgu'r iaith!



We're going to the Lly^n tomorow for a week, to a cottage near Pistyll on the northern coast of the peninsula.  I hope to get a chance to practice my Welsh, but with so many visitors there over the summer, that's not always that easy... we'll see!

Of course in Wales you have to have a wet weather plan every visit (well a waterproof at least!), but in Blaennau Ffestiniog this year they've gone a step further, through arranging a festival called 'Gwyl y Glaw/The Rain Festival), which celebrates the towns reputation for wet weather.  Unfortunately the weather forcast for the weekend at the moment promise more sunshine than rain...sod's law I suppose!

Anyway, whatever you are doing for the rest of the holidays - enjoy!

By the Way - A man from Los Angeles - Dan Rhys - has set about learning Welsh and sent an audition video to the producers of the Welsh soap 'Pobl y Cwm' in order to try and get a part on the show.  He may be just having a bit of fun, but fair play to him, he's made a big effort to learn the language!

2 comments:

  1. Gwyl y Glaw yn Blaneau- bendegedig!
    Wnaethon ni gyrru Blaneau ar dydd mercher ac ron i'n rhy heulog!
    Wnaethon ni gerdedd i Cnicht ('Matterhorn Cymry')
    Caffi iawn yn Croesor lle dw i'n ymarfer fy nghymraeg.
    Mi ges i baned o de a brechdan caws.
    Blasus iawn.

    ReplyDelete
  2. Ardderchog, digwydd bod (as it happens) roedden ni ym Mhorthmadog dydd mercher a wnes i weld Cnicht, ond ges i ddim cyfle i gerdded yn y mynyddoedd yn anffodus.

    ReplyDelete