4.7.11

Cariad@Iaith

Mi fydd cyfres newydd o Cariad@iaith yn dechrau nos wener ar S4C.   Mae'n saith mlynedd ers i Tanni Grey Thompson 'ennill' y cyfres diweddaraf, cyfres mae pobl yn ei gofio oherwydd ymddygiad (behaviour) Janet Street Porter.  

Y tro yma, mae'r criw o 'celebs' yn dysgu mewn 'gwersyll amgen' lawr yn Sir Penfro, ac mi fydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau eu amser yna pob nos, wrth iddyn nhw drio dysgu rhywfaint o Gymraeg mewn wythnos.  Mae 'na ddau o diwtoriaid yn eu dysgu nhw, Nia Parry, a Ioan Talfryn Davies sy'n dysgu yn y Canolfan Iaith yn Ninbych fel arfer.

Ymhlith y selebs eleni ydy Lempit Opic, Helen Lederer, a chwpl o rapwyr o'r grwp Goldie Lookin Chain. Cymysgedd diddorol iawn!

Dyma'r wefan (website)

 cyfres - series
 diweddaraf - most recent
oherwydd - because of
criw - crew/group
gwersyll amgen - alternative campsite
darlledu - broadcast
uchafbwyntiau - highlights
rhywfaint - some amount
ymhlith - amongst
rapwyr - rappers
cymysgedd - mixture

No comments:

Post a Comment