17.12.09

Siopa Dolig (Christmas Shopping)

There's a vocab/geirfa underneath this piece to help:

Wnes i wibio draw i'r Wyddgrug y p'nawn 'ma, er mwyn prynu cardiau Nadolig Cymraeg yn Siop y Siswrn (a great place to 'earwig' some Welsh and maybe practice(!?)relatively locally). Tra oeddwn i yna, wnes i sylwi ar y siop drws nesa (o'r enw 'Tlws'), sydd efo casgliad mawr o gemwaith, felly es i i mewn er mwyn prynu anrhegion Nadolig. Mae popeth yn y siop yn ddwyieithog, felly wnes i ddechrau siarad Cymraeg efo'r dynes tu ôl i'r cownter a gaethon ni sgwrs braf am ychydig o funudau cyn i mi brynu breichled arian i Jill a chrogdlws ar gadwyn i'r merch.

Wedyn es i mewn i Siop y Siswrn a phori trwy'r llyfrau am ddeg munud (yn trio ffeindio ysbrydoliaeth am anrhegion Nadolig i fy rhieni) cyn holi am gardiau nadolig Cymraeg. Yn anffodus roedden nhw wedi gwerthu allan bron, ond wnes i brynu hanner dwsin o'r rhai ar wahan (ffordd eitha drud o brynu cardiau), i ychydig o aelodau'r teulu sy'n Cymry Cymraeg.

gwibio - dart/dash
draw - over
er mwyn - in order to
tra - while
sylwi - notice
casgliad - collection
gemwaith - jewellery
dwyieithog - bi-lingual
breichled - bracelet
crogdlws - pendant
cadwyn - chain
p(h)ori - browse/graze
ysbrydoliaeth - inspiration
bron - almost
ar wahan - except
eitha drud - rather expensive
Cymry Cymraeg - Welsh speaking Welsh people

1 comment:

  1. Siopa dolig- dim drud. Mi es i 'Byd Punt' yn yml
    HMV Penbedw. Bargain ardderchog! Dw i'n mewn ty ci rwan o cwrs...
    Dim pwdin nadolig anfoddus.
    Beth bynnag.....

    ReplyDelete