23.7.10

Gwyliau'r Haf.... (Summer festivals)

(translation follows)

Mi fydd 'na ddwy wy^l cerddorol yn digwydd yn Sir y Fflint dros yr wythnosau nesaf,  y cyntaf ohonynt y dydd sadwrn yma.   Mae Gwy^l Y Ffin yn cael ei chynnal eleni yn Nhreffynon, ac mi fydd nifer o'r fandiau mwyaf poblogaidd y Si^n Roc Cymraeg yn chwarae gan cynnwys 'Racehorses', 'Brigyn' a  'Derwyddon Dr Gonzo'.  Cofiwch, mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac o fewn tafliad carreg o Gilgwri!

Mae Gwy^l Tegeingl braidd yn wahanol.  Gwy^l gwerinol ydy hi, gyda pherfformwyr o'r byd canu gwerin o dros Brydain a thu hwnt yn ymddangos, er mae 'na elfenau Cymreig a Chymraeg i'r digwyddiad  Mae'n digwydd yn Yr Wyddgrug dros penwythnos ym mis Awst, ac mae'r manylion llawn ar y wefan.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wrth gwrs yn digwydd fel arfer dros yr wythnos cyntaf o fis Awst.
Mae'n digwydd yn y de eleni, yng Nglyn Ebwy, tipyn bach yn rhy bell i mi a dweud y gwir (mae hi'n symud i leoliad gwahanol pob flwyddyn, un flwyddyn yn y gogledd, y nesaf yn y de).  Ond yn 2011 mi fydd hi'n dod i Wrecsam, lleoliad cyfleus iawn i ni yng Nghilgwri:)   Mi fydda i'n dilyn digwyddiadau'r prifwyl eleni ar S4C, yn enwedig cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, un o uchafbwyntiau'r Eisteddfod erbyn hyn. Mae S4C yn neilltio rhaglen gyfan fel arfer i ddilyn campau ieithyddol y pedwar sydd wedi llwyddo cyrraedd y rownd terfynol, ac i ddatgan pwy ydy'r ennillydd.

translation

There will be two music festivals happening in Flintshire over the next few weeks,  the first of them this saturday.  The 'Y Ffin' (the border) festival is being held in Holywell this year, and a number of the most popular bands in the Welsh language pop/rock scene will be playing, including 'Racehorses', 'Brigyn' and 'Derwyddon Dr Gonzo'.  Remember this event is free and within a stones throw of the Wirral.

The 'Tegeingl' festival is somewhat different.  It's a folk festival, with folk singers from Britain and beyond performing, though there is a Welsh accent to the event.  It happens in Mold over a weekend in August, and the full details are on the website.

The National Eisteddfod of course is taking place as usual over the first week in August.  It's happening in the south this year, in Ebbw Vale, a little to far for me to be honest (it move s to a different location each year, one year in the north, the next in the south).  But in 2011 it'll be coming to Wrexham, a convenient location for us in the Wirral:)  I'll be following events at the Eisteddfod this year on S4C, especially the Leraner of the Year competition, now one of the Eisteddfods highlights.  S4C set aside a whole programme usually to follow the linguistic feats of the four who've succeeded to reach the final round, and to announce who is the winner.

gyda llaw/by the way

gwy^l = festival
gwyliau = festivals/holidays
y prifwyl -  the main festival ( a term sometimes used to describe the National Eisteddfod)

2 comments:

  1. P'nawn da Neil!
    Wnest ti fynd i'r Ffin festival?
    Mae wedi edrych ddiddorol.
    Tegeingl mewn Clwb Rygbi, Yr Wyddgrug-Awst. Dw i'n medru (gallu?)becio efo Mike falle.
    Heddiw, dw i'n mynd i Porth Sunlight achos wnes i brynnu lyfr am William Lever a dw isio gweld
    i lan yn golau amgen.
    Roedd wedi person anghyffredin!
    (The new Edwardian tea rooms will no doubt be massively overpriced of course and the cakes inevitably won't be able to hold a candle to those which us dysgwyriau are used to nowadays).
    Hwyl.
    Mae'n bwrw glaw.

    ReplyDelete
  2. S'mae Nigel,

    Doeddwn i ddim yn gallu mynd i wy^l y Ffin yn anffodus ond dwi'n gobeithio mynd i Tegeingl, felly rhoi wybod i mi (let me know: lit. give information to me) os ti a Meic yn mynd.

    Dwi wedi darllen ychydig am William Lever - dwi'n credu gaeth o ystafell gwely heb nenfwd (ceiling) yn Thornton Manor, er mwyn iddo fo (in order for him to) cysgu o dan y sér!! Mae'r 'Ystafelloedd Te Edwardaidd' yn swnio yn ddiddorol a gwerth ymweliad dros y haf.

    Mae 'na lun enwog o'r enw 'Salem' yn yr oriel Lady Lever ym 'Mhorth Sunlght(Heulwen?!)' os dwi'n cofio'n iawn. Llun eiconeg yng Nghymru wrth gwrs. hwyl am y tro, Neil

    ReplyDelete