7.10.10

Strydoedd Cymreig Lerpwl...

I was reading this week about the soon to disappear 'Welsh Sreets' of the Dingle in Liverpool. 
(I haven't done a complete translation (too tired!) but you'll find a 'geirfa' (vocab) below):

Wnes i ddarllen erthygl diddorol yng nghylchgrawn 'Barn' y mis yma, yn cofnodi hanes rhai o 'strydoedd Cymreig' dinas Lerpwl. Mae Dr Ben Rees yn arbennigwr ar hanes Cymry Glannau Mersi, ac yn yr erthygl mae o'n son am 'strydoedd Cymreig' y Dingle, sy'n ar fin cael eu dymchwel gan gyngor y ddinas.   Gwaith adeiladwyr o Gymru oedd y strydoedd yna yn y bon, a symudodd lawer o Gymry i fyw ynddyn nhw ar ól cyrraedd Lerpwl,  yn creu ardaloedd 'Cymraeg' mewn llefydd fel Anfield, Bootle, a'r Dingle.

Ond mae 'na rwbeth arall sy'n gwneud y strydoedd yma o ddidordeb, ac sydd wedi codi storm (wel storm bach o leiaf!) o brotest yn Lerpwl a thu hwnt.  Mewn un o Welsh Streets y Dingle, sef  Madryn Street, gaeth Ringo Starr ei eni.   Erbyn hyn mae cyn cartrefi John  a Paul o dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (National Trust), ac yn atyniadau twristiaeth poblogaidd, felly mae'n annodd credu bod Cyngor Lerpwl yn bwriadu dymchwel 9 Madryn St.   Mae 'na son am symud y ty^ (neu rhan ohono fo!?)  i'r amgueddfa,  ond mae ffans y ffab ffór (neu bobl sy'n gobeithio gwneud arian trwy werthu nhw!) wedi dechrau tynnu brics o ffrynt y ty^ yn barod, felly mae'n rhaid i'r cyngor gwneud penderfyniad cyn iddo fo ddiflannu!!

erthygl - article
cofnodi - record
arbennigwr -specialist/expert
ar fin - just about to
cael eu dymchwel - have their demolishing i.e be demolished
cyngor-council
symudodd - moved
ynddyn nhw - in them
creu - create
o leiaf - at least
ardaloedd - areas
llefydd - places
a thu hwnt - and beyond
sef - namely
gaeth ringo ei eni - ringo had his birth i.e.was born
erbyn hyn - by now
o dan - under
(g)ofal - care
atyniad(au) - attractions(s)
bwriadu - intend
son - talk/mention
amgueddfa - museum
penderfyniad - decision
diflannu - disappear

1 comment:

  1. An interesting suggestion which I heard would be to put Ringo's house on E-Bay and let some deluded American or Japanese fan buy it for much more than it's worth and give the money to Claire House or some such similar worthy cause.
    Dw i'n gwybod dw i rhaid ysgrifennu yn Cymraeg ond swper y barod! Brechdan Caws (cysgy ofnadwy syth ymlaen).

    ReplyDelete