25.10.10

Dysgwr Les yn cwblhau campwaith....

Geirfa yn isod / Vocab beneath

Mae dysgwr o ardal Wrecsam wedi cwblhau campwaith sef cyfieithiad o nofel Cymraeg enwog.
Dwi'n cofio cyfarfod Les Barker am y tro gyntaf mewn 'sesiwn sgwrs' yn Yr Wyddgrug tua pedair mlynedd yn ól.  Ar y pryd roedd o wedi bod yn dysgu Cymraeg  ers dim ond cwpl o flynyddoedd dwi'n meddwl, a dwi'n cofio'r sypreis o ddysgu am ei waith pob dydd, sef  bardd!  'Googlio fo!', dwi'n cofio rhywun yn dweud nes ymlaen.  Mi wnes i wrth gwrs, a wnes i ddarganfod bod Les yn fardd adnabyddus, ac wedi cyhoeddi nifer fawr o lyfrau dros y flynyddoedd.   Y dyddiau yma mae o'n barddoni a pherfformio yn y Gymraeg hefyd, ond yr wythnos yma gaeth o sylw a chlod am ei addasiad/cyfieithiad o nofel Daniel Owen  'The Trials of Enoc Huws'.  Mae Daniel Owen yn un o feibion enwocaf Yr Wyddgrug, ac yn nhafarn Y Pentan gaeth y llyfr ei lansio, adeilad oedd yn siop teiliwr yn nyddiau Owen, a lle wnaeth o weithio.  Dyma esboniad dros enw siop Cymraeg y dre jysd dros y ffordd: Siop y Siswrn (The scissors shop).  Mae'r stori yn cymryd lle mewn tre debyg iawn i'r Wyddgrug rhywbryd yn y 19C (y pedwaredd canrif ar bymtheg!), ac rhaid i mi roi'r fersiwn Saesneg (a'r un Cymraeg) ar fy rhestr nadolig!!

cwblhau-complete
sef - namely
campwaith-feat of work
cyfieithiad-translation
dim ond ers - only since
sypreis - suprise!
ei waith bob dydd - his day job
bardd - poet
nes ymlaen -later on
darganfod - discover
adnabyddus - well known
cyhoeddi - to publish
barddoni - to write poetry
c(h)lod - praise
addasiad - adaption
m(f)eibion - sons
enwocaf - most famous
lansio - to launch
teilwr - tailor
d(n)yddiau - days
esboniad - explanation
cymryd rhan - takes place
fersiwn - version

2 comments:

  1. Mae'n gwrando ddiddorol. Wnes i edrych y 'Gwales.com' pam dw i feddwl medru helpu gormod iawn. Co-incidentally (Co-incidentallio?),
    mi es i Y Wyddgrug ddoe efo fy nghwaer.
    Gaethon ni frecwast fawr yn y caffi ond wnes i feddwl the quality of the sausages to be dim iawn.
    Wnaethon ni ddweud dim byd ond bydda i' ysgrefennu 'STRONG LETTER OF COMPLAINT' heno.

    ReplyDelete
  2. Pa gaffi? rhaid i mi gofio peidio mynd (neu beidio cael sosej o leiaf!)

    Co-incidence - Cyd-digwyddiad
    co-incedentaly - trwy gyd-digwyddiad

    another thing that would work is 'digwydd bod' more like 'as it happens', eg 'Digwydd bod ro'n i yn Yr Wyddgrug....'

    ReplyDelete