5.3.11

Eisteddfod y Dysgwyr 2011

Roedd Eisteddfod y Dysgwyr (Gogledd Ddwyrain Cymru) 2011 yn llwyddiant ysgubol dwi'n credu, efo nifer mawr (dros 200) yn mwynhau noson o gystadlu cyffeillgar. Gobeithio wnaethoch chi fwynhau'r profiad o wylio a chystadlu hefyd!

Uchafbwyntiau (highlights) y noson - yn ól ymateb y cynulleidfa - oedd   a) perfformiad o 'Galon Lan' (os dwi'n cofio'n iawn) ar y bagbibau (bagpipes), a   b) 'medley' o glasuron Abba gan griw o ddysgwyr lliwgar o ardal Wrecsam,   ac wrth gwrs c) cystadleuaeth y sgetsh ;)

Da iawn i bawb wnaeth cyfrannu at noson wych, a llongyfarchiadau mawr i Les Barker o Fwlchgwyn ger Wrecsam am ennill y Cadair.

Dyma fideo o'r sgetsh gwnaeth ennill (wel yr unig sgetsh a dweud y gwir..)! 



geirfa

llwyddiant ysgubol - sweeping success
ennill-win
cystadlu-compete
cyfeillgar-freindly
profiad - experience
yn o^l - according to (it can of course mean 'back' as well)
cynulleidfa-audience
lliwgar-colourful
cystadleuaeth-competition
cyfrannu-contribute

2 comments: