21.2.11

Cofnideos...

Dwi ddim yn siwr bod y gair 'cofnideo' yn un 'swyddogol', ond dyma'r gair sy'n cael ei defnyddio gan Chris Cope (Americanwr sy'n byw Nghaerdydd ac sydd wedi dysgu'r iaith 'ma) i ddisgrifio ei fideo blogs Cymraeg.   Cymysgedd ydy o o'r gair 'cofnodi' (to record) a 'fideo' (video -wrth gwrs!).
Maen nhw'n gwerth eu gwylio, ond mewn un o ei 'gofnideos' yr wythnos yma, mae Chris yn ein cyfeirio ni at gofnideo arall, hynny ydy 'Wales Shark'.   Mae'n anodd disgrifio y rhain, ond maen nhw yn Saesneg efo rhyw fath o wers Cymraeg yn rhan ohonynt.

geirfa:

swyddogol - official
cymysgedd - a mixture
cyfeirio - to direct (as in directs us to)
y rhain - these
rhyw fath - some sort
gwes - lesson
ohonynt - of them.

No comments:

Post a Comment