4.8.11

Diwrnod ar Faes yr Eisteddfod...

Roedd o'n hyfryd gweld pawb ar faes Eisteddfod Wrecsam dydd iau, a gobeithio wnaethoch chi i gyd mwynhau'r profiad.  Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn rhywbeth annodd i ddiffinio,  ac mae'n cymryd *peth amser* i ddeall beth sy'n digwydd.  Roedd Eisteddfod Wrecsam fy 5ed Prifwyl, a dwi dal ddim yn deall hanner o'r pethau sy'n mynd ymlaen.   Yn y bon wrth gwrs siawns i glywed a defnyddio'r Cymraeg ydy o i fi a dysgwyr eraill, a pob tro dwi'n mynychu'r Eisteddfod dwi'n cael mwy allan o'r profiad.   Gobeithio felly gaethoch chi rywbeth allan ohono fo, a llond bag o 'freebies' hefyd!



 Roedd yr ymateb i'r sgets yn wych, a diolch i chi i gyd am gymryd rhan.  Peth dewr ydy wneud rhywbeth fel hyn mewn ail iaith, felly da iawn iawn i bawb, ac mae'r beirniadaeth (adjudication) yn calonogol hefyd.

Dyma feirniadaeth y beirniaid:

"Sgript dda gyda llawer o hiwmor 'cynnil'!
Agoriad effeithiol - yr athro yn naturiol ac yn gredadwy iawn.
Roedd aelodau'r dosbarth yn cymryd eu rhannau'n hyderus, ond cofiwch bod angen codi lleisiau ar gyfer cystadleuaeth fel hon.
Roedd wynebau'n creu cyfrolau hefyd e.e. y dynes yn son am y delyn a gw^r 'Tina Turner'.
Roedd Geraint (Lovgreen) yn hoffi llinellau fel 'Afon Dwfn Mynydd Uchel'.
Pob llwyddiant i chi i gyd wrth ddysgu Cymraeg, diolch o galon am gystadlu."

Lisa J Davies / Geraint Lovgreen

geirfa/vocab

diffinio - define
dal - still
mynychu - attend
yn y bon - in the main
peth amser - some time
llond - full
cynnil - subtle
effeithiol - effective
credadwy - believable
rhannau - parts
hyderus - confidently
ar gyfer - for
(g)wynebau - faces
cyfrolau - volumes
e.e. - e.g.
gw^r - husband
llwyddiant - success
cystadlu - compete
diolch o galon - heartfelt thanks


No comments:

Post a Comment