23.8.11

Y Sgets.... perfformiad arall?

Gobeithio eich bod chi i gyd yn mwynhau'r haf. Gaethon ni wythnos digon braf lawr yn Dorset, ond erbyn hyn dwi yn ol yn y gwaith.

Dani wedi cael gwahoddiad i berfformio'r sgets unwaith eto, y tro yma mewn un o gyfarfodydd 'Cymdeithas Birkenhead'. Dwi'n hapus i wneud o, ond mi fydda i'n siarad efo pawb a gofyn os bod nhw'n fodlon cymryd rhan cyn cytuno wrth gwrs. Mi fasai rhaid i mi siarad ychydig hefyd - am y dosbarthiadau nos a chefndir y sgets - er mwyn wneud ein cyfraniad parhau am fwy na pum munud! ond mi fasai'n braf cael siawns gwneud perfformiad arall, ar ol yr holl waith caled!!

erbyn hyn - by now
gwahoddiad - invite
cyfarfod(ydd) - meeting(s)
cymdeithas - society
gofyn - ask
bodlon - willing/happy
cymryd rhan - take part
cytuno - agree
mi fasai rhaid i mi - I would have to
cefndir - background
er mwyn - in order to
cyfraniad - contribution
parhau - last
mi fasai'n braf - it'd be nice
holl - all (the whole)
(g)waith - work
caled - hard

No comments:

Post a Comment